Cynigion i’w trafod ar 12/02/2025

NDM8810 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2025 | I'w drafod ar 12/02/2025

Cau'r trap am byth - yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru. 

 

NDM8814 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2025 | I'w drafod ar 12/02/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;

b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;

c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;

d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac

e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;

b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;

c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;

d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac

e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

 

NDM8821 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025 | I'w drafod ar 12/02/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Gwelliannau

NDM8821 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2025

Dileu'r cyfan a'i ddisodli gyda'r canlynol:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.

2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.

3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;

b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;

c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a

d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.

Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

 

NDM8822 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025 | I'w drafod ar 12/02/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2025.