Cynigion i’w trafod ar 11/07/2018

NDM6763 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2018 | I'w drafod ar 11/07/2018

Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

 

NDM6765 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2018 | I'w drafod ar 11/07/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

 

NDM6766 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2018 | I'w drafod ar 11/07/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd
Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

Cyflwynwyd gan

 

NDM6767 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2018 | I'w drafod ar 11/07/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

NDM6768 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2018 | I'w drafod ar 11/07/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.