Cynigion i’w trafod ar 11/03/2020

NDM7238 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod diagnosis cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi.

2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar ganser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn cynnwys mwy o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith pan ddaw'r cynllun presennol i ben yn 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser.

Cyflwynwyd gan

 

NDM7247 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal ar gyfer cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru; a

b) adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg.

Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg

 

NDM7294 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Tynged y meysydd glo: effaith datganoli ar gymunedau'r meysydd glo; yr heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd a rhai cwestiynau ynghylch eu ffyniant yn y dyfodol.

 

NDM7295 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Pleidleisio drwy Ddirprwy' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12 a gwneud newidiadau canlyniadol i Reol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â bod yn weithredol ar 6 Ebrill 2021.

 

NDM7296 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG.

2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o Raglen De Cymru.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7296 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:

a) yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn ardaloedd daearyddol yng Nghymru;

b) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg;

c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd;

d) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio, ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei fwrdd;

e) nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan

NDM7296 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Chwefror 2020 mewn cysylltiad â chadw gwasanaethau brys 24 awr o dan arweiniad ymgyngorydd meddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

NDM7296 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru Iachach'.

Cymru Iachach - Llywodraeth Cymru

NDM7296 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol.

NDM7296 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2020

 Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder, dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 

 

NDM7297 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon o bob math i hunaniaeth ddiwylliannol a sifig Cymru.

2. Yn credu y dylai’r gallu i fwynhau chwaraeon fod mor hygyrch â phosib i’r ystod ehangaf o boblogaeth ein cenedl.

3. Yn pryderu am yr adroddiadau y bydd y darllediadau o gemau rygbi’r chwe gwlad ond ar gael i’w gwylio ar sail talu-wrth-wylio yn y dyfodol.

4. Yn credu bod mynediad at ddarllediadau rygbi cenedlaethol yn allweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn cyfranogi mewn rygbi llawr gwlad.

5. Yn credu y dylai darllediadau gemau rygbi chwe gwlad Cymru barhau i fod ar gael i’w gwylio am ddim i bawb ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau hyn.

Cyflwynwyd gan