Cynigion i’w trafod ar 10/12/2025
NDM8884 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025 | I'w drafod ar 10/12/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.
3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
Maeve Boothby O’Neill: Adroddiad Prevention of Future Deaths
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
datblygu dull strategol o ymchwil drwy gefnogi Cymru i gynnal un o'r pum canolfan arfaethedig yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol gydweithredol i fecanweithiau patholegol sy'n achosi ME, COVID hir a chyflyrau heintiau ôl-acíwt cysylltiedig.
Cyflwynwyd gan
NDM9071 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025 | I'w drafod ar 10/12/2025Meddiannu corfforaethol o ran practisau milfeddygol er mwyn gwneud elw, ar draul anifeiliaid anwes a'u perchnogion.
Cyflwynwyd gan
NDM9076 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2025 | I'w drafod ar 10/12/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru’ a gasglodd 10,536 o lofnodion.
Cyflwynwyd gan
NDM9078 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2025 | I'w drafod ar 10/12/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr 2025.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae wrth greu swyddi, cefnogi cymunedau a rhoi hwb i economïau lleol ledled Cymru.
3. Yn credu y bydd cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU yn arwain at gostau ychwanegol i fusnesau a cholli swyddi.
4. Yn gresynu bod busnesau o dan Lywodraeth Lafur Cymru, yn cael eu taro gan y cyfraddau busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, diweithdra yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyflog isaf.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach;
b) gwrthdroi newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant mewn perthynas â rhyddhad eiddo busnes;
c) darparu rhagor o barcio am ddim yng nghanol trefi;
d) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym; ac
e) galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y rhain hyd yma.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y lluosydd cyfradd îs ar gyfer safle manwerthu bach a chanolig i gynnwys busnesau lletygarwch a hamdden, gan nodi bod amcangyfrif y byddai peidio gwneud hynny yn gadael y dafarn stryd fawr gyffredin gyda £6,800 yn ychwanegol o drethi busnes y flwyddyn;
b) sicrhau na fydd unrhyw gymorth i fusnesau a ddaw o uwchgynhadledd fuddsoddi ddiweddar Llywodraeth Cymru yn digwydd ar draul ymdrechion i feithrin sylfaen gystadleuol a gwydn busnesau domestig;
c) darparu pecyn cymorth busnes cryfach ac wedi’i gydgysylltu'n fwy effeithiol, gan gynnwys cynorthwyo cynlluniau olyniaeth i fusnesau bach a chanolig Cymru; a
d) hyrwyddo ehangiad mentrau cydweithredol a chyd-fuddiannol o fewn economi Cymru drwy roi’r modelau hyn ar sail deg gyda ffurfiau mwy traddodiadol o fenter a busnes.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghymru trwy:
a) Busnes Cymru, sydd wedi cefnogi dros 33,200 o fusnesau ac entrepreneuriaid ers dechrau tymor y Senedd hon;
b) Micro-fenthyciadau a phecynnau cyllid twf gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi cefnogi dros 950 o fusnesau gyda £21.7 milliwn o fenthyciadau yn nhymor y Senedd hon; ac
c) £140 miliwn ar ffurf rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i dros 70,000 eiddo yn 2025-26.
Cyflwynwyd gan
NDM9088 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025 | I'w drafod ar 10/12/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.