Cynigion a gyflwynwyd ar 09/04/2024
NNDM8529 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/04/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.
Cyflwynwyd gan
NNDM8530 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/04/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024.