Cynigion i’w trafod ar 08/10/2025

NDM8992 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Rhwystro mynediad at addysg: y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a pham bod rhaid ei ddiwygio.

 

NDM8995 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025.

 

NDM8996 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 a osodwyd ar 21 Mai 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025. Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 3 Gorffennaf 2025.

 

NDM8997 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023.

2. Yn nodi y gosodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 25 Mawrth 2025. 

3. Yn nodi y trafodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 16 Gorffennaf 2025.

4. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben.

 

NDM8999 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at:

a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli;

b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a

c)  £76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo.

Asesiad effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy