Cynigion i’w trafod ar 08/07/2026
NDM9244 - Dadl Aelodau
Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2026 | I'w drafod ar 08/07/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod rhestrau aros offthalmig yng Nghymru yn hir iawn, gydag un o bob wyth o gyfanswm y cleifion sy'n aros am apwyntiadau'r GIG yng Nghymru yn aros yn benodol am apwyntiadau gofal llygaid.
2. Yn nodi bod ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2026 yn argymell camau ar unwaith i leihau achosion o golli golwg anadferadwy.
3. Yn nodi y rhagwelir y bydd y galw yn cynyddu tra bod gan Gymru ar hyn o bryd 1.97 offthalmolegydd ymgynghorol fesul 100,000 o'r boblogaeth, sef y ffigur isaf yn y Deyrnas Unedig.
4. Yn cydnabod bod dyblygu diangen ar draws strwythurau byrddau iechyd gwahanol yng Nghymru, sy'n arwain at lefelau gofal anghyson i gleifion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu cynlluniau ar gyfer sefydlu canolfannau llawfeddygol a all ddod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer arbenigeddau fel opthalmoleg i ddelio ag aros hir am driniaethau;
b) gweithredu argymhellion y pwyllgor ar symleiddio a safoni gwasanaethau ar ofal llygaid ledled Cymru er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael cysondeb o ran lefel a mynediad at ofal; ac
c) ystyried creu bwrdd iechyd Cymru gyfan yn benodol ar gyfer offthalmoleg sy'n cwmpasu gofal sylfaenol ac eilaidd er mwyn cyflawni'r nodau uchod.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Manylion Buddiant yr Aelod
Rwyf yn offthalmolegwr (Gwyn Williams)
NDM9260 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2026 | I'w drafod ar 08/07/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar rianta corfforaethol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai cryfhau ac ehangu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol yng Nghymru, gan gynnwys:
a) estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ffurfiol y tu hwnt i awdurdodau lleol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, byrddau iechyd ac asiantaethau sy'n gweithredu yng Nghymru, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan adlewyrchu'r dull a gymerwyd yn Neddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 yn Lloegr;
b) gosod dyletswydd statudol ar y cyrff hynny i fod yn wyliadwrus o effeithiau andwyol ar lesiant plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal a gweithredu i liniaru'r effeithiau hynny; ac
c) sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru yn elwa o amddiffyniadau rhianta corfforaethol sydd o leiaf yr un mor gryf â'r rhai sydd ar gael mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, o ystyried bod estyn rhianta corfforaethol yng Nghymru yn ehangach yn dibynnu ar hyn o bryd ar siarter wirfoddol yn hytrach na dyletswydd statudol.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Manylion Buddiant yr Aelod
Rwy'n berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. (Sarah Cooper-Lesadd)
NDM9283 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2026 | I'w drafod ar 08/07/2026Anghydraddoldebau iechyd ym meysydd glo de Cymru.
Cyflwynwyd gan
NDM9284 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2026 | I'w drafod ar 08/07/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad hanfodol y sector twristiaeth i economi Cymru, gan gefnogi dros 150,000 o swyddi yn uniongyrchol a chyfrannu at 5 y cant o werth ychwanegol gros Cymru.
2. Yn dathlu Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf, sy'n croesawu ymwelwyr o bedwar ban y byd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector twristiaeth drwy:
a) dileu'r dreth dwristiaeth; a
b) gostwng y trothwy defnydd 182 diwrnod ar gyfer busnesau hunanarlwyo.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru i’r sector twristiaeth drwy’r canlynol:
a) hyrwyddo’r ardoll ymwelwyr fel dewis i awdurdodau lleol a all alluogi buddsoddiad newydd mewn twristiaeth leol; a
b) cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i barhau i adolygu’r trothwy meddiannaeth 182 diwrnod ar gyfer busnesau hunanddarpar a chreu eithriadau clir a rhesymol lle na fyddai eiddo yn gymwys i gael ei drin fel cartref preifat.