Cynigion i’w trafod ar 07/12/2022

NDM8093 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:

a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;

b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;

c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;

d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;

e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:

(i) llunio safonau BSL;.

(ii) sefydlu panel cynghori BSL;

(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;

e) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.

 

NDM8157 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

 

NDM8158 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar 28 Medi 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

 

NDM8159 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Breuddwydion atomig: pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio

 

NDM8160 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

Gwelliannau

NDM8160 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

 Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.

 

NDM8161 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra i gymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.

Gwelliannau

NDM8161 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

NDM8161 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunan-arlwyo gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.

Cyflwynwyd gan