Cynigion i’w trafod ar 07/10/2025

NDM8991 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025 | I'w drafod ar 07/10/2025

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd Meddwl i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2024 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2025, 8 Ebrill 2025, 30 Mehefin 2025, 20 Awst 2025 a 30 Medi 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Iechyd Meddwl [Tŷ'r Arglwyddi] (Saesneg yn unig)