Cynigion i’w trafod ar 07/07/2026

NDM9282 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2026 | I'w drafod ar 07/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch:

a) gwella'r trefniadau cyllidol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan gynnwys mwy o bwerau benthyca; a

b) diwygio fformiwla Barnett i ddarparu cyllid tecach i Gymru.

Gwelliannau

NDM9282 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod ailddosbarthu cyfoeth yn fantais fawr o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

2. Yn cydnabod mai'r Deyrnas Unedig yw'r wlad fwyaf canoledig a mwyaf economaidd anghytbwys yng ngorllewin Ewrop.

3. Yn cytuno y dylai gwrthwynebiad Llywodraeth yr Alban i ddiwygio fformiwla Barnett fod yn brif ffocws gwaith ymgysylltu Llywodraeth Cymru â Llywodraeth yr Alban.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd bob chwarter i'r Senedd ar gynnydd o ran dylanwadu ar newid i safbwynt Llywodraeth yr Alban ac o ran ceisio a sicrhau setliad tecach i genedl a rhanbarthau Cymru.

NDM9282 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi dadansoddiad diweddaraf y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y gallai diwygio fformiwla Barnett arwain at Gymru yn cael £1 biliwn yn llai o gyllid y flwyddyn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio gwariant ar feysydd datganoledig.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i dorri gwariant rhyngwladol er mwyn sicrhau trefniadau ariannu tecach i Gymru.

NDM9282 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Cymru yn haeddu trefniadau ariannu teg.

2. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU wedi cyflwyno Fframwaith Cyllidol yn 2016 a gyflwynodd ffactor yn seiliedig ar anghenion yn y fformiwla ariannu ar gyfer Cymru; a

b) y daeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi cael tua 25 y cant yn fwy o gyllid gan Lywodraeth y DU fesul preswylydd nag a wariwyd ar wasanaethau tebyg yn Lloegr yn 2024–25.

3. Yn cydnabod y risgiau sy'n gysylltiedig ag adolygiad o Fframwaith Cyllidol Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei chyllidebau presennol mewn ffordd sy'n cynnig gwell gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.