Cynigion i’w trafod ar 06/02/2019

NDM6950 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019 | I'w drafod ar 06/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE.

Cyflwynwyd gan

 

NDM6952 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019 | I'w drafod ar 06/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2018.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Cyflwyno ar 23 Tachwedd 2018.

 

NDM6957 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019 | I'w drafod ar 06/02/2019

Caerffili ddi-blastig, Cymru ddi-blastig: Beth y gellir ei wneud ar lefel leol a chenedlaethol i leihau llygredd plastig.

 

NDM6959 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019 | I'w drafod ar 06/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA diweddaraf.

2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru.

3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru;

b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac

(c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.  

Ffyniant i bawb: cynllun gweithredu ar yr economi

Gwelliannau

NDM6959 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2019

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol'

2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru.

3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.

4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol. 

5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.

6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.

7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM6959 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2019

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod polisi llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru.

NDM6959 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd.

NDM6959 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2019

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf.

Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.

Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg.

NDM6959 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2019

Yn is-bwynt (a) ym mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'.