Cynigion i’w trafod ar 05/02/2019

NDM6954 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2019 | I'w drafod ar 05/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y seilwaith strategol yng Nghymru.

2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru.

3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.

4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn.

Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi (Saesneg yn unig)

Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM6954 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019

Dileu popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau.

Yn gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a Lerpwl.

Yn nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud.

Yn annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

NDM6954 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019

Dileu pwynt 1.

NDM6954 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2019

Dileu pwynt 3.

NDM6954 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.

NDM6954 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio'r'.

NDM6954 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.'

NDM6954 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.'

NDM6954 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder.