Cynigion i’w trafod ar 04/12/2024
NDM8659 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024 | I'w drafod ar 04/12/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol.
2. Yn gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn ogystal â gofid iddynt hwy a'u hanwyliaid.
3. Yn credu bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i nodi'n fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn;
b) i gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar:
i) nifer y bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai;
ii) y math o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a thrin;
iii) darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a
iv) nifer a natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr;
c) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a
d) i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
NDM8750 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024 | I'w drafod ar 04/12/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru' a osodwyd ar 24 Gorffennaf 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2024.
Cyflwynwyd gan
NDM8751 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024 | I'w drafod ar 04/12/2024Mwyngloddio copr yng Nghymru: a yw'n rhesymol dibynnu ar gopr wedi'i fewnforio?
Cyflwynwyd gan
NDM8752 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024 | I'w drafod ar 04/12/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.
2. Yn gresynu mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.
3. Yn credu gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.
Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.