Cynigion i’w trafod ar 04/07/2018
NDM6740 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2018 | I'w drafod ar 04/07/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.
2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.
Tŷ'r Cyffredin - Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol / Y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau - Carillion (Saesneg yn unig)
Swyddfa Archwilio Cymru - 'NHS England’s management of the primary care support services contract with Capita' (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
NDM6756 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018 | I'w drafod ar 04/07/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 27 Mehefin 2018.
Cyflwynwyd gan
NDM6758 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018 | I'w drafod ar 04/07/2018Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant