Cynigion i’w trafod ar 02/07/2025
NDM8940 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2025 | I'w drafod ar 02/07/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar Gyfraith Owain, sydd wedi'i enwi ar ôl Owain James o Gaerffili, a fu farw yn 2024 o diwmor ar yr ymennydd.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai sicrhau:
a) bod yn rhaid cael cydsyniad gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, i drin a storio meinwe tiwmor, a hynny cyn y llawdriniaeth;
i) dylai'r broses gydsyniad gynnwys esboniad ysgrifenedig clir o sut y bydd meinwe a dorrwyd allan yn cael ei storio ar ôl llawdriniaeth, ac archwiliad patholegol a histolegol; a
ii) dylai'r cydsyniad amlinellu y bydd yr holl feinwe sy'n weddill yn eiddo i'r claf, a dim ond caniatâd gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, all benderfynu ar ei ddefnydd;
b) y bydd y swm lleiaf posibl o feinwe tiwmor a dorrwyd allan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddiad patholegol a histolegol, gan sicrhau cywirdeb diagnostig;
c) bod yn rhaid i'r meinwe tiwmor a dorrwyd allan sy'n weddill gael ei rhewi'n gyflym neu ei rhewi'n ffres, ar -80 gradd canradd, heb unrhyw gemegau na chadwolion (gan gynnwys halwynog neu baraffin). Dylid storio meinwe mewn sawl cyfnifer (aliquot), lle bo modd, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o feinwe yn y dyfodol at wahanol ddibenion; a
d) pan fydd sefyllfaoedd brys yn codi ac nad yw cydsyniad yn bosibl cyn llawdriniaeth, rhaid dilyn yr un protocol ar gyfer storio meinwe a rhaid cwblhau'r broses o gael cydsyniad o fewn 48 awr.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
NDM8944 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2025 | I'w drafod ar 02/07/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu cynnydd yn y galw yn sgil newidiadau demograffig a goblygiadau lefelau gordewdra cynyddol a phroblemau iechyd cronig hirdymor, ond nid yw hyn yn golygu bod argyfwng iechyd.
2. Yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i wella iechyd pobl a gwella mynediad at ofal iechyd gan gynnwys:
a) £120m i leihau amseroedd aros a maint cyffredinol y rhestr aros;
b) newidiadau i'r contract meddygon teulu i ddarparu parhad yn y gofal i bobl â chyflyrau hirdymor; ac
c) Cymru yn dod yn Genedl Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Cyflwynwyd gan
NDM8945 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2025 | I'w drafod ar 02/07/2025O wasanaeth i wewyr: cyn-aelodau'r Lluoedd Awyr Brenhinol a'u brwydr gudd â chanser
Cyflwynwyd gan
NDM8946 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2025 | I'w drafod ar 02/07/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 25 Mehefin 2025.