Cynigion i’w trafod ar 01/10/2025
NDM8981 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran:
a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unigolion preifat;
b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig;
c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd; a
d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon.
Cyflwynwyd gan
NDM8987 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru’ a gasglodd 10,934 o lofnodion.
Cyflwynwyd gan
NDM8988 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 16 Medi 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu;
b) bod cyfradd cyflogaeth Cymru wedi gostwng a dyma'r isaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi cynyddu a dyma'r uchaf ym Mhrydain Fawr; a
d) mai pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu rhagor o swyddi yng Nghymru a rhoi hwb i dwf drwy:
a) torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1 geiniog;
b) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;
c) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym;
d) sicrhau chwarae teg i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad ar gyfer pob rhan o'r wlad;
e) galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant sy'n effeithio'n andwyol ar gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol Cymru; ac
f) dileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya i gael Cymru i symud.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le:
Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sef Trosolwg o’r farchnad lafur: Medi 2025.
Yn croesawu’r canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) mae cyfradd ddiweithdra Cymru yn is na chyfradd y DU;
b) mae’r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd gyflogaeth y DU wedi lleihau yn ystod y cyfnod ers datganoli;
c) mae pecynnau cymorth amrywiol wedi’u cyflwyno er mwyn helpu pobl economaidd anweithgar i ddychwelyd i’r gwaith – ac yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth fel bod yn anabl, cyflyrau iechyd hirdymor neu gyfrifoldebau gofalu; a
d) yn 2024, roedd yr enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn uwch na’r enillion yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon a Swydd Efrog a Humber.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2(d) a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at effaith niweidiol penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau olynol San Steffan ar economi Cymru, gan gynnwys:
a) effaith barhaus Brexit, sydd wedi achosi ergyd £4 biliwn ar economi Cymru ac sy'n rhwystr mawr i dwf busnesau;
b) effaith barhaus mesurau cyni ar gyllid cyhoeddus;
c) y methiant i ddarparu fformiwla gyllido deg i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn y Senedd;
d) y methiant i gyflawni addewidion i ddarparu mwy o hyblygrwydd i'r Senedd reoli ei chyllideb;
e) y methiant i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa ar ei hadnoddau naturiol ei hun;
f) y methiant i ddarparu ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2 i Gymru;
g) y methiant i ailddosbarthu cyfoeth yn gyfartal ar draws y DU; a
h) goruchwylio polisïau cyllidol di-hid, megis mini-gyllideb Liz Truss, sydd wedi achosi caledi sylweddol i aelwydydd Cymru.
Yn credu bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi dangos dro ar ôl tro ac yn bendant eu diffyg ymrwymiad i hyrwyddo buddiannau ariannol ac economaidd Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb i swyddi a thwf drwy:
a) dangos bod ganddi ddylanwad yn y 'bartneriaeth mewn pŵer' drwy orfodi Llywodraeth Lafur y DU i ymgysylltu o ddifrif â diwygio trefniadau cyllido Cymru;
b) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr;
c) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau yr UE i hyrwyddo twf economaidd;
d) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi newidiadau treth etifeddiant sy'n effeithio ar ffermydd teuluol Cymru;
e) mynnu iawndal llawn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer costau a ysgwyddwyd o ddylunio ac adeiladu seilwaith ffiniau diangen ym mhorthladdoedd Cymru, a buddsoddi'r elw i gefnogi masnach Cymru; ac
f) defnyddio pwerau newydd a ddarperir drwy'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol i greu lluosyddion ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Cyflwynwyd gan
NDM8989 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025Cefnogi afancod: symud gyda'r afon i reoli'r gwaith o ailgyflwyno afancod yng Nghymru
Cyflwynwyd gan
NDM8990 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio lefelau ystyfnig tlodi plant yng Nghymru sydd yn 32 y cant ar hyn o bryd.
2. Yn gresynu fod y rhagolygon yn dangos mai gan Gymru fydd y lefelau uchaf o dlodi plant drwy’r DU erbyn 2029.
3. Yn cymeradwyo Llywodraeth yr Alban am gyflwyno Taliad Plant yr Alban, polisi y mae disgwyl iddo godi 60,000 o blant allan o dlodi yn 2025-26 ac i leoli’r Alban fel yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i gyfraddau tlodi plant ostwng ar y cyfan erbyn 2029.
4. Yn nodi:
a) ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno Cynnal, sef taliad plant i Gymru fel blaenoriaeth llywodraethol; a
b) bod Policy in Practice wedi adnabod mai’r ymyriad mwyaf pwerus ac effeithiol wedi’i ddylunio i leihau tlodi yw taliad plant uniongyrchol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno taliad plant; a
b) ail-ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr gyda thargedau statudol mesuradwy.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu ymhellach mai teuluoedd Cymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf ym Mhrydain Fawr, sy'n cyfrannu at dlodi plant.
Yn credu ei bod yn well gwario arian trethdalwyr ar wella gofal plant yng Nghymru ac ar wella economi Cymru er mwyn codi mwy o deuluoedd allan o dlodi.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddefnyddio cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod teuluoedd Cymru yn cael yr un swm o gymorth gofal plant ag y mae teuluoedd yn Lloegr yn ei gael; a
b) i ailymrwymo i ddileu tlodi plant gyda thargedau statudol mesuradwy.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod yn rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr ar bob lefel o’r llywodraeth.
Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i'w graddau llawn ac arwain wrth gydlynu camau gweithredu ehangach i roi terfyn ar dlodi plant, fel y nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi galw dro ar ôl tro i’r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau lles ddod i ben;
b) heb bwerau ar hyn o bryd i ddeddfu ar gyfer taliad plant;
c) yn cefnogi Siarter Budd-daliadau Cymru, a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth wirioneddol i bobl wneud y mwyaf o incwm eu teulu; a
d) yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yn ddiweddarach eleni.