Cynigion i’w trafod ar 01/07/2025

NDM8941 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2025 | I'w drafod ar 01/07/2025

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adran 1;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 2-49;

d) Atodlen 2;

e) Adran 50;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 51-90;

h) Enw Hir.

 

NDM8942 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2025 | I'w drafod ar 01/07/2025

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod Rheoliadau drafft Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 yn cael eu llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2025.

 

NDM8943 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2025 | I'w drafod ar 01/07/2025

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2025.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.