Cynigion a gyflwynwyd ar 01/05/2025

NNDM8894 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi:

a) yr angen am fwy o dryloywder ynghylch tir halogedig; a

b) egwyddorion cyfraith Zane a enwyd ar ôl Zane Gbangbola, saith oed, a gafodd ei ladd gan nwy o safle tirlenwi cyfagos pan gafwyd llifogydd yn ei gartref. 

2. Yn nodi:

a) bod cartref teuluol Zane ger  safle tirlenwi halogedig tebygol lle roedd dŵr llifogydd yn llifo ohono a oedd yn golygu bod angen gwagio'r ardal;

b) yn canmol ymgyrch degawd o hyd y teulu yn dilyn marwolaeth Zane;

c) bod y British Medical Journal yn nodi bod 80 y cant o bobl yn byw o fewn 2km i safleoedd tirlenwi;

d) annigonolrwydd y rheoliadau presennol ynghylch gwaredu gwastraff gwenwynig a'r perygl i fywyd dynol, i'r amgylchedd, ac i'r blaned, o safleoedd tirlenwi hanesyddol a safleoedd tirlenwi cymeradwy presennol sy'n gweithredu'r egwyddor beddrod sych; ac

e) bod y mater hwn yn broblem gynyddol mewn cyfnod o chwalfa hinsawdd, gyda lefelau'r môr yn codi, mwy o law, a llifogydd eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ystyried deddfwriaeth i:

a) cydnabod yr hawl ddynol i amgylchedd iach, a gymeradwywyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym mis Gorffennaf 2022;

b) sicrhau bod yn rhaid i bob awdurdod lleol perthnasol gadw cofrestr lawn, wedi'i diweddaru'n rheolaidd o dir a allai fod wedi'i halogi o fewn eu ffiniau;

c) mynnu bod Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw cofrestr genedlaethol lawn, gyhoeddus o dir halogedig a gaiff ei diweddaru'n rheolaidd gan wybodaeth gan awdurdodau lleol;

d) mynnu bod yn rhaid i'r holl gofrestrau tir a grybwyllir uchod fod yn hygyrch ac ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd;

e) sicrhau bod rhaid i awdurdodau lleol perthnasol archwilio unrhyw dir sydd wedi'i gofrestru a allai fod wedi'i halogi a rhaid adfer neu orfodi adfer unrhyw dir sy'n niweidio diogelwch y cyhoedd, neu sy'n llygru dyfroedd a reolir yn llawn;

f) sicrhau bod rhaid i awdurdodau lleol perthnasol fod yn gyfrifol am arolygu safleoedd tirlenwi sydd wedi'u cau yn flaenorol a'u hadfer yn llawn neu orfodi eu hadfer pan fyddant yn peri risg o niwed sylweddol i bobl neu ddyfroedd a reolir; a

g) sicrhau bod cyllid digonol ar gael i awdurdodau lleol i ddelio â'r mater hwn.