NDM6117 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2016 | I'w drafod ar 11/10/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynllunio'r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy'r Gymraeg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Comisiynyomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â'r anghenion hynny.
'Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog