NDM9371 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2026 | I'w drafod ar 25/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y bydd cynllun dychwelyd ernes arfaethedig presennol Llywodraeth Cymru:
a) yn arwain at ddargyfeirio diangen oddi wrth Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon; a
b) yn trosglwyddo gwerth ariannol deunyddiau ailgylchadwy i ffwrdd o gyllidebau awdurdodau lleol Cymru i sefydliad dielw preifat sy’n cael ei reoli gan gynhyrchwyr diodydd, ac na fydd gan awdurdodau lleol na threthdalwyr Cymru unrhyw reolaeth uniongyrchol dros sut y caiff ernesau heb eu hadennill eu gwario.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ohirio rhoi’r cynllun dychwelyd ernes arfaethedig ar waith, hyd nes y cynhelir adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol, a fydd:
a) yn amlinellu unrhyw ganlyniadau negyddol i aelwydydd, busnesau, awdurdodau lleol a'r sector lletygarwch;
b) yn cynnal asesiadau clir o safonau mynediad ac effeithiau ar aelwydydd, gan gynnwys mesurau i ddiogelu pobl na allant gael mynediad rhwydd at bwyntiau dychwelyd neu ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu ar-lein yn rheolaidd; ac
c) ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o Iwerddon, yn enwedig Dulyn, am sbwriel cynyddol a'r costau ychwanegol o ran staffio, cerbydau a chostau gweithredu sy'n gysylltiedig â glanhau biniau cyhoeddus ar ôl i bobl chwilio ynddynt am gynwysyddion y talwyd ernes ar eu cyfer, ac i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad cyn bwrw ymlaen i roi’r cynllun ar waith.