NDM9364 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2026 | I'w drafod ar 25/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddiad ystadegau hunanladdiad blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr ar 13 Hydref 2026.
2. Yn cydnabod bod y niferoedd hyn yn cynrychioli bywydau go iawn a gollwyd a theuluoedd a ffrindiau sydd mewn galar.
3. Yn nodi, am flwyddyn arall, mai'r gyfradd hunanladdiad uchaf yng Nghymru yw ymysg dynion 45-49 oed.
4. Yn credu bod atal hunanladdiad yn gofyn am ymateb tosturiol, ar draws y llywodraeth sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, ac yn croesawu gwaith y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru.
5. Yn nodi’r cyngor yn adroddiad blynyddol cyntaf y ganolfan y dylai gweithgareddau atal hunanladdiad flaenoriaethu dulliau sydd wedi’u teilwra i ddynion gyda sylw arbennig i’r rhwystrau y mae dynion yn eu hwynebu wrth geisio cymorth, ochr yn ochr â hyfforddiant ac adnoddau i staff mewn ymatebion a chyfeirio priodol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) nodi rhaglen o gamau gweithredu clir i atal hunanladdiad dynion ynghyd ag amserlenni ar gyfer eu gweithredu; a
b) sicrhau bod y rhaglen hon o gamau gweithredu yn cynnwys datblygu llwybrau clir i'r rhai sy'n ceisio cymorth mewn lleoliadau gofal iechyd ar gyfer trallod neu hunan-niweidio, gyda dulliau penodol wedi'u teilwra i ddynion.
Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr: 1981 i 2025 - Swyddfa Ystadegau Gwladol