NDM9363 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2026 | I'w drafod ar 18/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylid cynnal ac amddiffyn yr egwyddor o ryddid i lefaru.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
NDM9363 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
13/11/2026
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod rhyddid i lefaru yn hawl sylfaenol ac iddo ddyletswyddau a chyfrifoldebau, a bod rhaid ei arfer o fewn y gyfraith, gan gynnwys amddiffyniadau cyfreithiol rhag iaith sy’n annog casineb neu niwed, yn bygwth hawliau neu ddiogelwch eraill, neu sy’n achosi ofn trais, pryder neu drallod.
Yn nodi ymhellach ei bod yn ofynnol i Aelodau o’r Senedd weithredu o fewn terfynau Rheol Sefydlog 13.9 a pharagraff 193 o ganllawiau’r Llywydd ar y modd priodol o gynnal busnes, ac y dylai Aelodau gynnal eu dyletswyddau a busnes y Senedd mewn ffordd sy’n cynnal yr egwyddorion o urddas a pharch i bawb.