NDM9357 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2026 | I'w drafod ar 16/12/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr ymgyrch dros Ddeddf Owain, a enwyd ar ôl Owain James, a fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2024; a
b) gwaith y diweddar Dr Hefin David AS, a arweiniodd ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar Ddeddf Owain yn 2025.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau ynghylch cydsyniad cleifion i lawdriniaeth ar diwmorau ar yr ymennydd a chadw a storio meinwe tiwmorau ar yr ymennydd, gan gynnwys ei rhewi pan fo hynny’n briodol yn glinigol; a
b) cyfraniad cleifion, teuluoedd, clinigwyr ac ymgyrchwyr at godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwybodaeth glir a thrafodaeth wybodus ynghylch trin a chadw meinwe tiwmorau ar yr ymennydd.
3. Yn credu:
a) y dylai cleifion a’u teuluoedd gael gwybodaeth glir a chyson am drin a chadw meinwe tiwmorau ar yr ymennydd a dynnir yn ystod llawdriniaeth, a’r defnyddiau posibl ohoni; a
b) pan fo hynny’n briodol yn glinigol, y dylid manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio meinwe tiwmorau ar yr ymennydd i gefnogi diagnosis, profion moleciwlaidd, cynllunio triniaeth, ymchwil a chyfleoedd posibl i gymryd rhan mewn treialon clinigol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried y dulliau mwyaf effeithiol ac ymarferol, gan gynnwys a oes angen canllawiau cenedlaethol, i gryfhau trefniadau ynghylch cydsyniad cleifion i lawdriniaeth ar diwmorau ar yr ymennydd a chadw a storio meinwe tiwmorau ar yr ymennydd, gan gynnwys ei rhewi pan fo hynny’n briodol yn glinigol;
b) gweithio gyda chleifion a theuluoedd, clinigwyr, sefydliadau’r GIG, gwasanaethau patholeg, gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi cleifion o Gymru, gan gynnwys y rhai y tu allan i Gymru, cyrff proffesiynol a rheoleiddwyr wrth ddatblygu’r mesurau hyn;
c) cryfhau trefniadau i sicrhau bod cleifion a theuluoedd yn cael gwybodaeth gyson, berthnasol a digonol cyn llawdriniaeth am yr hyn a all ddigwydd i feinwe a dynnir yn ystod llawdriniaeth, a sut y gellir ei chadw a’i defnyddio;
d) cryfhau cysondeb y broses o gofnodi trafodaethau ynghylch gwybodaeth a chydsyniad a chymryd camau dilynol mewn perthynas â hwy; ac
e) sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn sicrhau bod meinwe tiwmorau ar yr ymennydd yn cael ei chadw a’i defnyddio’n briodol i’r graddau mwyaf posibl, gan roi blaenoriaeth i ddiagnosis cywir ac amserol, a diogelu diogelwch cleifion, barn glinigol a llwybrau gofal arbenigol sefydledig.