NDM9351 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2026 | I'w drafod ar 11/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwasanaeth, ymrwymiad ac aberth y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
2. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae'r sector amddiffyn yn ei wneud o ran cefnogi economi Cymru, darparu swyddi medrus a chadw'r wlad yn ddiogel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mabwysiadu Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ymgorffori ei egwyddorion ym mhob maes polisi datganoledig a sicrhau atebolrwydd ar gyfer ei weithredu;
b) rhoi blaenoriaeth i gyn-filwyr ar gyfer tai cymdeithasol;
c) cryfhau'r cymorth i gyn-filwyr sy'n pontio i gyflogaeth sifil; a
d) cefnogi presenoldeb a datblygiad parhaus cyfleusterau'r Lluoedd Arfog a sefydliadau amddiffyn yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod cyfraniad y sector amddiffyn at swyddi, sgiliau, arloesi a thwf mewn cynhyrchiant yng Nghymru.
Yn cydnabod ymrwymiad Rhaglen Llywodraethu Cymru i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella’r gefnogaeth ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Yn cydnabod ymhellach ymrwymiad awdurdodau lleol ledled Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog a bod y Cyfamod yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi’n deg i gael mynediad at dai.