NDM9345 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026 | I'w drafod ar 11/11/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod pobl Cymru yn haeddu ymchwiliad llawn, annibynnol a thryloyw i'r penderfyniad a wnaed yn ystod pandemig Covid-19.
2. Yn nodi bod Ymchwiliad COVID-19 annibynnol yr Alban o dan arweiniad barnwyr wedi'i sefydlu'n ffurfiol ym mis Chwefror 2022.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu ymchwiliad cyhoeddus statudol o dan arweiniad barnwyr, gyda phwerau i orfodi tystion, i modd yr ymdriniwyd â'r pandemig Covid-19 yng Nghymru; a
b) cyhoeddi'r holl ganfyddiadau ac argymhellion yn llawn.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn eu rôl flaenorol fel llefarwyr yr wrthblaid, wedi addo ymchwiliad Covid-19 llawn ar gyfer Cymru i deuluoedd mewn profedigaeth yn sgil Covid, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i dystion fod yn bresennol, gan gynnwys sylwadau a wnaed yn y Senedd ar 16 Gorffennaf 2025 gan y Gweinidog Cabinet presennol dros Iechyd a Gofal yn galw am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru, wedi'i fodelu ar ymchwiliad yr Alban wedi'i arwain gan farnwyr.
2. Yn nodi bod y Gweinidogion hynny wedi cyhoeddi adolygiad, ar 3 Tachwedd 2026, heb y pŵer i orfodi tystion i fod yn bresennol, yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus statudol.
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i gyfeirio at y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol y cwestiwn a yw Gweinidogion wedi torri'r Cod Gweinidogol drwy gamgynrychioli ymrwymiadau a wnaed cyn yr etholiad i Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu Adolygiad Annibynnol o Covid-19 yng Nghymru, a fydd yn sicrhau bod y gwersi o Covid yn cael eu dysgu a bod Cymru yn fwy parod ar gyfer y pandemig nesaf.