NNDM9336 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 21/10/2026Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026:
1. Yn cytuno bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i a ddylai cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd fod yn gymwys ac, os felly, sut y dylai fod yn gymwys i ymddygiad Aelod o’r Senedd mewn perthynas â chyfnod pan oedd yr aelod yn ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd (pa un a oedd yr aelod yn dal swydd fel Aelod o’r Senedd ar y pryd ai peidio).
2. Yn cytuno bod rhaid i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gwblhau adroddiad ar yr ymchwiliad a gosod yr adroddiad gerbron y Senedd.
3. Yn nodi, yn unol ag adran 19(5) o'r un Ddeddf, ar ôl i'r Pwyllgor osod ei adroddiad, fod rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy'n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i'r adroddiad.