NDM9329 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 07/10/2026 | I'w drafod ar 14/10/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn y gofal lliniarol a diwedd oes a ddarperir ar draws GIG a hosbisau Cymru.
2. Yn cydnabod y rôl hanfodol a chwaraeir gan hosbisau yng Nghymru wrth ddarparu gofal lliniarol arbenigol a gofal diwedd oes.
3. Yn nodi'r pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu hosbisau yng Nghymru a'r alwad gan Hospice UK a Hospices Cymru am gyllid ychwanegol i ddiogelu gwasanaethau hosbisau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu cynllun hirdymor i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd eu hangen;
b) nodi sut y bydd yn darparu cyllid teg a chynaliadwy ar gyfer hosbisau ledled Cymru; ac
c) sicrhau bod gan GIG Cymru a hosbisau yng Nghymru y gweithlu sydd ei angen arnynt i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes diogel, o ansawdd uchel a chynaliadwy.