NDM9313 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2026 | I'w drafod ar 07/10/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailwampio trefniadau trwyddedu tai amlfeddiannaeth a rheolau cymhwysedd tai cymdeithasol i roi terfyn ar allu gwladolion tramor i gael mynediad at Dai Amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU lle bo angen.

Gwelliannau

NDM9313 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu gan awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth a chynlluniau dyrannu lleol, gyda blaenoriaeth yn cael ei phennu yn ôl yr angen am dai a chategorïau blaenoriaeth statudol.

2. Yn cydnabod bod cymhwysedd ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth digartrefedd yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â statws mewnfudo a phreswyliad cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn credu bod penderfyniadau sy'n ymwneud â thrwyddedu a rheoli tai amlfeddiannaeth yn cael eu gwneud orau gan awdurdodau lleol o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

4. Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch gwasgariad a llety pobl sy'n ceisio lloches yn cael eu cadw i Lywodraeth y DU ac yn credu y dylai trefniadau gwasgaru effeithiol ystyried capasiti lleol, effaith debygol ar gydlyniant cymunedol a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

5. Yn cefnogi ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i hyrwyddo trefniadau gwasgaru teg a chynaliadwy ac i gefnogi integreiddio a chydlyniant cymunedol llwyddiannus ledled Cymru.

NDM9313 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU lle bo angen, i:

a) diwygio rheolau cymhwysedd tai cymdeithasol, tra'n diogelu hawliau dinasyddion Prydain ac Iwerddon a phobl a ddiogelir gan Gytundeb Ymadael â'r UE; a

b) rhoi terfyn ar y defnydd o dai amlfeddiannaeth i ddarparu ar gyfer pobl sy'n bresennol yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon.