NDM9305 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2026 | I'w drafod ar 30/09/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi amcangyfrif Llywodraeth Cymru bod sector amddiffyn ac awyrofod Cymru gyda'i gilydd yn cyflogi 16,000 o bobl yn uniongyrchol, bod ganddo drosiant o £3.7 biliwn, ac yn cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) y cyfraniad sylweddol parhaus y mae'r sector amddiffyn yn ei wneud i Gymru;

b) pwysigrwydd sector amddiffyn ffyniannus ar adeg o ansicrwydd geowleidyddol; a

c) bod gan Gymru hanes balch o gyfrannu at amddiffyn y Deyrnas Unedig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector amddiffyn drwy:

a) cyhoeddi strategaeth ddiwydiannol amddiffyn Cymru sy'n nodi sut i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd, diwydiannol a sgiliau sy'n deillio o fwy o wariant amddiffyn y DU yng Nghymru;

b) cydweithio â darparwyr addysg bellach ac uwch i ehangu argaeledd prentisiaethau, addysg dechnegol a llwybrau graddedigion yn seiliedig ar anghenion y sector amddiffyn; ac

c) gweithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio cyfleoedd i gryfhau buddsoddiad yn y sector amddiffyn yng Nghymru.