NDM9302 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2026 | I'w drafod ar 30/09/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y gwaddol o dir a allai fod wedi’i halogi a adawyd gan orffennol diwydiannol Cymru, a all beri risgiau difrifol i iechyd pobl, iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd ehangach;
b) bod llawer o’r tir hwn wedi’i halogi o ganlyniad i weithgarwch diwydiannol hanesyddol, a bod y baich o reoli atebolrwydd yn aml yn disgyn ar gymunedau lleol ac awdurdodau cyhoeddus;
c) nad oes darlun cenedlaethol clir na chyson o dir a allai fod wedi’i halogi ledled Cymru;
d) y pryder a'r ansicrwydd hirdymor y mae cymunedau sy’n byw ger y safleoedd hyn yn aml yn eu hwynebu;
e) pwysigrwydd yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ o ran sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn cyfrannu at gostau adfer y tir.
2. Yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill i nodi tir halogedig, ymchwilio iddo a’i adfer.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod costau adfer yn cael eu talu gan y rhai sy’n gyfrifol am lygru;
b) galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno mecanwaith cyllido penodol i gefnogi’r gwaith o ymchwilio i dir halogedig a’i adfer, pan na ellir adennill y costau gan y rhai sy’n gyfrifol;
c) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer profi ac asesu tir a allai fod wedi’i halogi, gan roi blaenoriaeth i’r safleoedd sy’n peri’r risgiau mwyaf;
d) cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol.