NDM9301 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2026 | I'w drafod ar 23/09/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r argyfwng parhaus o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a'r effaith andwyol hirdymor y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd, eu henillion a'u cyfleoedd bywyd yn y dyfodol.
2. Yn croesawu'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn colegau addysg bellach ledled Cymru, gan gynnwys y galw cynyddol am addysg alwedigaethol a thechnegol.
3. Yn cydnabod y pwysau ariannol ar golegau i gwrdd â'r lefelau uchaf erioed o alw y flwyddyn academaidd hon.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad effaith ar gyfer peidio ag ariannu'r cynnydd mewn cyfranogiad yn y blynyddoedd academaidd 2026-27 a 2027-28, ac i ymrwymo i flaenoriaethu addysg bellach yn y broses o osod cyllideb 2027-28.
Cyflwynwyd gan
Manylion Buddiant yr Aelod
Myfyriwr rhan amser yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i annog mwy o gydweithio rhwng colegau addysg bellach a'r sector preifat.