NDM9297 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2026 | I'w drafod ar 07/10/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu nad oes Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) wedi bod yng Nghymru ers mis Tachwedd 2023.

2. Yn nodi argymhelliad 35 yn yr adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru ym mis Hydref 2019, sef y dylid sefydlu Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.

3. Yn cydnabod yr argymhelliad yn adroddiad Gwerthusiad o Gynllun Peilot y Llys Cyffuriau ac Alcohol i Deuluoedd yng Nghymru ym mis Mawrth 2024, sef y dylai cynlluniau i ehangu FDAC ymhellach yng Nghymru gael eu datblygu.

4. Yn croesawu’r canfyddiadau o’r treial yng Nghymru:

a) bod rhieni yn hynod gadarnhaol ynghylch eu profiad o fod yn rhan o achos FDAC;

b) bod nifer y rhieni oedd yn camddefnyddio sylweddau ar ddechrau achos FDAC wedi gostwng o 83 y cant i 54 y cant; a

c) bod nifer y plant oedd yng ngofal un neu’r ddau o’u rhieni wedi mwy na dyblu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu’r argymhelliad i fwrw ymlaen â chreu FDACs ledled Cymru;

b) sicrhau bod FDACs yn rhan o strategaeth sy’n helpu i gadw plant allan o ofal; a

c) dysgu o brofiad y 13 tîm FDAC arbenigol sy’n gweithredu ar hyn o bryd, sy'n gweithio mewn 18 llys ac yn cefnogi teuluoedd mewn 35 awdurdod lleol yn Lloegr.

Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru

Gwerthusiad o Gynllun Peilot y Llys Cyffuriau ac Alcohol i Deuluoedd yng Nghymru