NDM9294 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2026 | I'w drafod ar 16/09/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at yr anghydfod cyflog parhaus rhwng ymwelwyr iechyd yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i hwyluso datrysiad boddhaol i'r anghydfod, gan gynnwys cynnig cyflog teg, ac i roi terfyn ar y streic.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan y Prif Weinidog fel arweinydd Plaid Cymru ar ran Plaid Cymru yn ystod etholiad diweddar y Senedd sy'n galw ar y bwrdd iechyd i anrhydeddu prosesau a gytunwyd ac uwchraddio pob ymwelydd iechyd Band 6 i Fand 7, ac adfer egwyddorion gweithio mewn partneriaeth.
Yn gresynu bod Plaid Cymru mewn llywodraeth wedi methu, hyd yn hyn, ag anrhydeddu'r ymrwymiad a gynhwysir yn y llythyr.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl sylfaenol ymwelwyr iechyd wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan gynnwys eu rôl hanfodol wrth ddiogelu babanod a phlant, ac yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatrys yr anghydfod a chael ymwelwyr iechyd yn ôl i'r gwaith.
Cyflwynwyd gan
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1: sy'n rhagflaenu'r llywodraeth bresennol ac sydd wedi parhau heb ei ddatrys ers nifer o flynyddoedd.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Unite dro ar ôl tro i ddod ynghyd i ddatrys yr anghydfod hwn er mwyn lleihau'r effaith ar fabanod, teuluoedd a staff, a'i fod yn parhau'n ymrwymedig i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gadarnhaol ar bob lefel ac i ddatrys anghydfodau lleol drwy drafod cyn gynted â phosibl.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu ymwelwyr iechyd diogel a sefydlog ledled Cymru, a bod Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi comisiynu gwaith i adolygu ac ystyried y ffordd y darperir gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y model yn parhau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau.