NDM9293 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2026 | I'w drafod ar 16/09/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau am droseddau sy'n ymwneud â chamfanteisio'n rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru.
2. Yn credu bod pawb sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru yn haeddu cyfiawnder.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei hymchwilio cyn gynted â phosibl fel rhan o'r Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad gangiau grŵmio Cymru gyfan i feysydd cymhwysedd datganoledig.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:
O’r farn bod pawb yng Nghymru sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yn haeddu cyfiawnder a chymorth.
Yn nodi bod Cymru’n dod o fewn cwmpas yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.
Yn nodi ymrwymiad sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o ran Cymru a datblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.
Yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys rhoi ar waith y camau gweithredu a nodir yn ei Chynllun Cyflawni.
Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru
Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru – Cynllun Cyflawni