NDM9288 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2026 | I'w drafod ar 15/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith barhaus TB buchol yn ariannol, yn emosiynol ac o ran lles anifeiliaid ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig Cymru.

2. Yn cydnabod bod TB buchol yn glefyd cymhleth gyda sawl llwybr trosglwyddo, gan gynnwys trosglwyddo o wartheg i wartheg a haint o fywyd gwyllt.

3. Yn gresynu bod y dull presennol wedi methu ag ennyn hyder llawer o ffermwyr ac nad yw wedi cyflawni'r cynnydd sydd ei angen tuag at ddileu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal safonau bioddiogelwch cadarn;

b) manteisio ar gyngor y Grŵp Cynghori Technegol TB wrth ddatblygu dull newydd o reoli TB buchol;

c) cydnabod bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint;

d) galluogi dulliau rheoli sydd wedi'u dilysu'n wyddonol; ac

e) sicrhau, os bydd y Grŵp Cynghori Technegol TB yn argymell camau rheoli bywyd gwyllt wedi'u targedu, gan gynnwys difa, fod argymhellion o'r fath yn cael eu hystyried yn llawn ac yn briodol ac, os ydynt yn cael eu cefnogi gan y dystiolaeth, y byddant yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o ddileu TB buchol.

Gwelliannau

NDM9288 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2026

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn cydnabod:

a) y dull partneriaeth a gymerwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru yn gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon;

b) bod achosion mewn buchesi ar hyn o bryd ar ei werth isaf ers mis Ionawr 2017; ac

c) bod bron i 95 y cant o fuchesi yng Nghymru bellach yn rhydd o TB buchol ar hyn o bryd.

3. Yn nodi y dylid rhoi ystyriaeth lawn a phriodol i dystiolaeth ac argymhellion a wnaed gan y Grŵp Cynghori Technegol TB.

4. Yn cydnabod rôl bwysig brechu wrth ddileu TB buchol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â gwaharddiad ar ddifa moch daear yn dorfol.