NDM9287 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2026 | I'w drafod ar 15/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn llongyfarch pobl Cymru ar gyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd.

2. Yn cefnogi'r gwaith o sefydlu cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach.

3. Yn credu y bydd dargyfeirio rheoleiddiol diangen oddi wrth Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd ernes arfaethedig presennol Llywodraeth Cymru yn arwain at;

a) cynyddu costau i gynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr yng Nghymru;

b) cyflwyno risg o dwyll trawsffiniol sylweddol; ac

c) peri risg o danseilio ewyllys da y cyhoedd. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cynlluniau presennol i gynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd ernes Cymru, er mwyn sicrhau aliniad rhwng Cymru a gweddill y DU.

Gwelliannau

NDM9287 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2026

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n gweithio i Gymru, a hynny’n unol â Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.

 

Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.