NDM9277 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026 | I'w drafod ar 01/07/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei chyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2026-27 i ddyrannu cyllid canlyniadol o wariant Llywodraeth y DU ar anghenion addysgol arbennig i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

Gwelliannau

NDM9277 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cost gynyddol y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi cael ei hariannu'n wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

2. Yn nodi'r £113 miliwn o gyllid ychwanegol a sicrhawyd ar gyfer llywodraeth leol o ganlyniad i'r cytundeb ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer 2026-27, sy'n gynnydd o 4.5 y cant i'r setliad gwreiddiol.

3. Yn nodi bod y gyllideb atodol a gyflwynwyd ar 23 Mehefin yn cadw dyraniadau Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer darpariaeth ADY, ysgolion a gwasanaethau llywodraeth leol yn ehangach.

4. Yn credu bod y model presennol o gyllid ADY yn anghynaliadwy, fel y nodwyd gan ganfyddiadau adroddiad diweddar Archwilio Cymru.

5. Yn cydnabod mai athrawon, ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd sydd wedi gorfod rheoli'r pwysau cynyddol yn y system ADY.

6. Yn ymrwymo i weithio gyda'r sector addysg, llywodraeth leol a phartïon eraill i sicrhau bod y system ADY yn gynaliadwy yn ariannol ac yn arwain at ddeiliannau gwell i ddisgyblion.

Archwilio Cymru: Anghenion Dysgu Ychwanegol: Ydy cyrff cyhoeddus yn gwybod a yw’r system yn gweithio?