NNDM9275 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil y GIG yn gyntaf.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a) cynyddu, lle bynnag y bo'n bosibl, ddarpariaeth meddygfeydd a chlinigau menter rhestr aros yn y GIG yn hytrach na thrwy'r sector preifat;
b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd geisio a datblygu cynlluniau wedi'u costio ar gyfer gweithgareddau clinigol ychwanegol gan adrannau o fewn eu sefydliadau eu hunain cyn llunio contractau gyda darparwyr preifat;
c) sefydlu rhagdybiaeth o blaid cynlluniau a arweinir gan y GIG dros ddarpariaeth y sector preifat mewn ymdrech i leihau rhestrau aros;
d) rhoi awdurdod i arweinwyr clinigol y GIG wrthod cynigion darparwyr preifat pan gânt eu hystyried yn anniogel yn glinigol neu os oes diffyg trefniadau dilynol priodol; ac
e) cyflwyno dyletswydd ar fyrddau iechyd i gyhoeddi data yn dryloyw ar ddefnydd darpariaeth y sector preifat.