NDM9245 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2026 | I'w drafod ar 24/06/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod y gyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na'r gyfradd ar gyfer gweddill y DU;
b) na fu gostyngiad parhaus yng nghyfradd y babanod sy'n cael eu marw-eni yng Nghymru ers 2018;
c) y bu diffyg cynnydd parhaus hefyd o ran lleihau cyfradd y babanod sy'n marw yn fuan ar ôl eu geni yng Nghymru; a
d) y gallai mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru fod wedi goroesi rhwng 2019 a 2023 pe bai canlyniadau wedi cyfateb i ganlyniadau'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop.
2. Yn croesawu:
a) cyhoeddi Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026;
b) ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd ataliol a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd; ac
c) gwaith parhaus i wella diogelwch mamolaeth, cynllunio'r gweithlu, a thegwch o fewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) nad yw teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru bob amser yn cael cymorth cyson, o ansawdd uchel, gan gynnwys mynediad at staff hyfforddedig, cyfleusterau profedigaeth priodol, a gofal seicolegol arbenigol;
b) bod gormod o farwolaethau babanod yng Nghymru yn rhai y gellir eu hatal, a bod angen gweithredu brys, cydgysylltiedig i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol; ac
c) bod rhaid i’r gwaith o leihau marwolaethau babanod, a sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn cael gofal tosturiol, o ansawdd uchel fod yn un o nodau canolog system iechyd ataliol a theg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr argymhellion a nodir yn Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026 yn cael eu gweithredu’n amserol ac yn effeithiol;
b) gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd ledled Cymru i:
i) sicrhau bod pob teulu mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd uchel fel rhan o Lwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol, gan gynnwys staff hyfforddedig, cyfleusterau priodol, cyfleoedd i greu atgofion, ac atgyfeirio at gymorth seicolegol arbenigol lle bo angen;
ii) cyflwyno cymorth seicolegol arbenigol i bobl ar ôl colli yn ystod beichiogrwydd a cholli babi, gan sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at gymorth waeth ble maent yn byw, y math o golled yn ystod beichiogrwydd neu golli babi a brofwyd, neu pa mor hir yn ôl yr oedd; ac
c) ystyried mabwysiadu targedau clir, mesuradwy i leihau cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru yn unol â'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop, gan gynnwys targedau i ddileu anghydraddoldebau o ran colli babanod yn ôl ethnigrwydd ac amddifadedd, a sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni.