NDM9240 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2026 | I'w drafod ar 10/06/2026Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r costau a'r amserlen lawn ar gyfer cyflwyno ei chynnig gofal plant o fewn ei 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth.
Cyflwynwyd gan
Cefnogwyr
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant o ansawdd uchel i wella cyfleoedd bywyd plant yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad oedd gan Reform UK unrhyw ymrwymiadau o ran gofal plant yn ei faniffesto ar gyfer Cymru.
2. Yn nodi ymhellach y dystiolaeth glir y byddai gwella mynediad at ofal plant yn lleihau tlodi plant yng Nghymru, ac y byddai mynediad at ofal plant a ariennir i bawb yn cefnogi rhieni i ddychwelyd i’r gwaith neu gynyddu eu horiau gwaith.
3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y costau a’r gwaith cyflwyno cychwynnol ar gyfer ehangu gofal plant i bawb cyn toriad yr haf, yn unol â’r ymrwymiadau a amlinellir yng nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf.