NDM9198 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2026 | I'w drafod ar 10/03/2026

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Troseddu a Phlismona i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod ar 28 Mawrth 2025, a chafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei osod ar 2 Gorffennaf 2025 a 3 Mawrth 2026, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Bil Troseddu a Phlismona – Biliau Seneddol – Senedd y DU