NDM9168 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 18/02/2026 | I'w drafod ar 25/02/2026Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.