NDM9149 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026 | I'w drafod ar 11/02/2026

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyfyngu ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed. 

Gwelliannau

NDM9149 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2026

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed, ac yn cydnabod yr angen am y canlynol:

a)  cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn a'r niwed i blant a phobl ifanc;

b)  penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion;

c)  cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gael eu dal yn gyfrifol am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, gyda deddfwriaeth bresennol yn cael ei gorfodi a'i chryfhau; a

d)  ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl a'u safbwyntiau yn cael eu hystyried