NDM9148 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026 | I'w drafod ar 11/02/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) argymhellion Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru; a
b) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn o wariant ar blismona er nad yw'n faes cyfrifoldeb datganoledig.
2. Yn gresynu:
a) at fethiant 'partneriaeth mewn pŵer' Llafur i symud yr achos dros ddatganoli yn y maes hwn yn ei flaen; a
b) bod elfen praesept yr heddlu o'r dreth cyngor wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd toriadau yng nghyllid canolog y DU.
3. Yn credu bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau'r heddlu yn rhoi cyfle hollbwysig i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn, er mwyn alinio gwasanaethau'n well er budd pobl Cymru, yn unol â threfniadau sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys ymrwymiad i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru yn y Papur Gwyn.
White Paper: From local to national: a new model for policing (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas)
Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl 1 b) a rhoi yn ei le:
effaith gadarnhaol y £100m hwnnw o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau;
dull gweithredu adeiladol y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu o ran ymgysylltu â thirwedd unigryw Cymru, a'r ymrwymiadau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu modelau llywodraethu i Gymru.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i eirioli dros ddatganoli plismona a chyfiawnder; a
b) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda sefydliadau partner i nodi'r trefniadau llywodraethu gorau posibl i'r dyfodol ar gyfer plismona yng Nghymru, a'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwnnw, fel y nodir mewn Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 27 Ionawr 2026.