NDM9135 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2026 | I'w drafod ar 04/02/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod y mis hwn yn nodi tair blynedd ers dychwelyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig; a
b) bod pob bwrdd iechyd mawr arall yng Nghymru o dan ryw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu.
2. Yn gresynu:
a) bod Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i oes mewn mesurau arbennig—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn hanes y GIG, a
b) bod pobl gogledd Cymru yn parhau i wynebu safonau gwael, amseroedd aros annerbyniol a diffygion sefydliadol parhaus o dan Lywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau ei harweinyddiaeth wleidyddol i wella safonau a dal y bwrdd iechyd i gyfrif;
b) gweithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant i ddiwygio trefniadau llywodraethiant y GIG;
c) cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau mewn data rhestrau aros Betsi Cadwaladr: a
d) cyflymu sefydlu hybiau llawfeddygol wedi'u staffio'n llawn o fewn Betsi Cadwaladr.
Adroddiad Plaid Cymru: System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) derbyn cyfrifoldeb am y methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiheuro am fethu â mynd i'r afael â'r diffygion ym maes gofal iechyd yng ngogledd Cymru;
b) datgan argyfwng iechyd;
c) cynyddu capasiti gwelyau i sicrhau diogelwch cleifion a gwella mynediad at ofal brys;
d) sefydlu canolfannau llawfeddygol ar frys i helpu i glirio'r ôl-groniad o ran amseroedd aros;
e) diogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd Sir Ddinbych, a mwy o unedau mân anafiadau; ac
f) cychwyn ymchwiliad annibynnol i fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddysgu gwersi, dal pobl i gyfrif am fethiannau, a sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliant sylweddol.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod cynnydd wedi’i wneud o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant corfforaethol, ansawdd a diogelwch, rheolaeth ariannol, ac ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig eto yn 2023; a
b) bod cynnydd yn cael ei wneud gan bob bwrdd iechyd sydd wedi’i uwchgyfeirio.
2. Yn cydnabod y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau yn nata rhestrau aros Betsi Cadwaladr, a’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar y mesurau arbennig, ym mis Mawrth.
3. Yn cefnogi aelodau ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt barhau i weithio dan bwysau i ddiwallu anghenion cleifion.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:
cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion.