NDM9100 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026 | I'w drafod ar 14/01/2026Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM9100 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
09/01/2026
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy: a
b) mynnu datganoli pellach o bwerau treth i Gymru gan San Steffan, gan gynnwys y gallu i gyflwyno treth tir gwag a'r gallu i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.