NDM6110 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2016 | I'w drafod ar 28/09/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid rhoi'r gorau i'r prosiect HS2 a defnyddio'r arbedion cyfalaf i wella'r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:
(a) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a
(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU:
(a) i gyhoeddi amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;
(b) i ariannu'n llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y de;
(c) i warantu holl arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; ac
(d) i gychwyn trafodaethau ar drosglwyddo'r cyllid a'r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu mai prosiect seilwaith i Loegr yn unig yw prosiect HS2 ac y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol Barnett sy'n adlewyrchu hyn.
2. Yn credu y dylai'r cyllid a dderbynnir fel cyllid canlyniadol Barnett gael ei ddefnyddio i greu seilwaith trafnidiaeth effeithiol sy'n cysylltu holl ranbarthau Cymru â'i gilydd, ac y dylai hyn gynnwys y prosiectau canlynol:
(a) gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru; gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de; a chreu rhwydweithiau rhanbarthol yn ein prif ardaloedd trefol fel prosiect metro de Cymru a phrosiect metro eang yng ngogledd Cymru;
(b) atebion trafnidiaeth sy'n addas i Gymru wledig a'i heriau demograffig a daearyddol penodol; ac
(c) trydaneiddio prif linellau rheilffordd gogledd a de Cymru, a gwaith diweddaru eang ar rwydwaith ffyrdd ehangach Cymru.