NDM9038 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2025 | I'w drafod ar 11/11/2025

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Mehefin 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Hydref 2025.