NDM9033 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025 | I'w drafod ar 05/11/2025

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.