NDM9031 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 29/10/2025 | I'w drafod ar 05/11/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
2. Yn gresynu bod cynnydd ar y rhaglen waith hon wedi bod yn araf o dan arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r cynnydd o ran diwygio'r system gofal cymdeithasol drwy wneud y canlynol:
a) penodi cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan gyda goruchwyliaeth strategol o drefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
b) datblygu cyllidebau cyfunol ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
c) gosod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol gyda chylch gwaith clir i feithrin mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol;
d) sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod; ac
e) ymgorffori o fewn cyfraith Cymru isafswm blynyddol cyfreithiol o ddiwrnodau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl.
 
                         
                        